Arwyddion Cerddoriaeth - Delilah - 27/09/2019
Fe wnaethon ni fwynhau gweithio gyda'r RNIB yn fawr iawn yn ein cynhadledd gyda'r bobl rydyn ni'n eu cefnogi yr wythnos diwethaf. Dysgon ni lawer am sut beth yw colli golwg, a chasglu adborth ar brofiadau pobl yn yr optegydd. Llawer o bethau i feddwl amdanyn nhw ar sut y gallwn ni wella amgylchedd y cartref a phrofion golwg i bobl ag anabledd dysgu. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'n partneriaeth gyda'r RNIB a Phrifysgol Caerdydd i ddysgu mwy am sut i wella profiadau i bobl gartref ac yn eu cymuned leol. Rydym ni mor gyffrous i fod yn gweithio gyda Maggie Woodhouse yn Ysgol Optometreg Prifysgol Caerdydd ac Iain Kennedy o'r RNIB i archwilio'r effaith y mae colli golwg yn ei chael ar bobl ag anableddau dysgu. Diolch yn fawr i Iain Kennedy am weithdy gwych sydd eisoes yn dylanwadu ar sut rydyn ni i gyd yn meddwl ac yn gweithredu.
Mae Bore Coffi Macmillan wedi cychwyn, dewch i ymweld â'n swyddfa yn Drive, Uned 8, Cefn Coed, Nantgarw, CF15 7QQ a chefnogi cymorth Canser Macmillan. #macmillan #borecoffi