Cyflwyniad

Rydym yn cymryd gofal i ddiogelu preifatrwydd cwsmeriaid a defnyddwyr Drive-wales.org.uk. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, storio a defnyddio data amdanoch chi.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a'ch hawl i breifatrwydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu ein harferion mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data yn:

E-bost : DataProtectionOfficer@drive-wales.org.uk

Ffôn : 01443 845260

Cyfeiriad : Drive, Uned 8, Cefn Coed Parc, Nantgarw, CF15 7QQ

Rydym wedi ein cofrestru ar Gofrestr Diogelu Data'r ICO o dan y rhif cofrestru Z6377234

Gwybodaeth Bersonol a gasglwn

Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol a ddarparwch yn wirfoddol pan fyddwch yn dewis cyflwyno ffurflen Gais am Swydd Wag a/neu'r ffurflen Cysylltu â Ni.

Gall y data personol a gasglwn gynnwys y canlynol:

  • Enw a Data Cyswllt
  • Hanes Cyflogaeth
  • Euogfarnau
  • Dyddiad Geni
  • Ethnigrwydd
  • Cyfeiriadedd Rhywiol

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth neu'n prosesu data

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol a gesglir trwy ein gwefan i:

  • prosesu eich cais am swydd wag.
  • caniatáu inni gysylltu â chi gydag rhagor o wybodaeth.

Cadw Data

Cedwir gwybodaeth ffurflen gyswllt a cheisiadau swydd aflwyddiannus am flwyddyn

Cedwir ceisiadau llwyddiannus am swyddi gwag am eich cyfnod cyflogaeth ynghyd â saith mlynedd.

Caiff yr holl ddata ei waredu'n gyfrinachol.

Gwybodaeth arall a gasglwn

Cwcis

Er mwyn gwneud y wefan hon yn haws i'w defnyddio, weithiau rydym yn gosod ffeiliau data bach ar eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn. Gelwir y rhain yn gwcis. Mae'r rhan fwyaf o wefannau yn gwneud hyn.

Mae cwcis yn gwella pethau drwy:

  •  cofio gosodiadau, fel nad oes rhaid i chi eu hail-nodi pryd bynnag y byddwch chi'n ymweld â thudalen newydd
  • mesur sut rydych chi'n defnyddio'r wefan fel y gallwn ni sicrhau ei bod hi'n diwallu eich anghenion.

Nid yw ein cwcis yn cael eu defnyddio i'ch adnabod chi'n bersonol. Maent yma i wneud i'r wefan weithio'n well i chi. Yn wir, gallwch reoli a/neu ddileu'r ffeiliau bach hyn fel y dymunwch.

I ddysgu mwy am gwcis a sut i'w rheoli, eu blocio neu eu dileu, cyfeiriwch at y Polisi Cwcis.

Google Analytics

Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio'r wefan hon. Rydym yn gwneud hyn i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion pobl ac i ddeall sut y gallwn wneud i'r wefan weithio'n well.

Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am ba dudalennau ar y wefan hon rydych chi'n ymweld â nhw, pa mor hir rydych chi ar y wefan, sut y cyrhaeddoch chi yma a beth rydych chi'n ei glicio tra byddwch chi yma.

Rhannu eich gwybodaeth

Ni fyddwn yn darparu unrhyw wybodaeth bersonol a gafwyd gennych drwy'r we i gwmnïau neu unigolion eraill oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.

Gall ein gwefannau ddarparu dolenni i safleoedd trydydd parti. Gan nad ydym yn rheoli'r gwefannau hynny, rydym yn eich annog i adolygu polisïau preifatrwydd y safleoedd trydydd parti hyn.

Cadw Data

Dim ond cyhyd ag y bo'n angenrheidiol at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol, oni bai bod cyfnod cadw hirach yn ofynnol neu'n cael ei ganiatáu gan y gyfraith (megis treth, cyfrifyddu, neu ofynion cyfreithiol eraill). Ni fydd unrhyw ddiben yn yr hysbysiad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth bersonol am fwy na 6 mis.

Eich Hawliau Preifatrwydd

O dan gyfraith GDPR y DU mae gennych rai hawliau. Gall y rhain gynnwys yr hawl (i) i ofyn am fynediad a chael copi o'ch gwybodaeth bersonol, (ii) i ofyn am gywiro neu ddileu; (iii) i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol; a (iv) os yw'n berthnasol, i gludadwyedd data. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol.

 

Eisiau gwybod mwy?