Fe wnaethon ni fwynhau gweithio gydag RNIB yn fawr iawn yn ein cynhadledd gyda'r bobl rydyn ni'n eu cefnogi yr wythnos diwethaf.
Dysgon ni lawer am sut beth yw colli golwg, a chasglon ni adborth ar brofiadau pobl gyda'r optegydd. Llawer o bethau i feddwl amdanyn nhw ynglŷn â sut y gallwn ni wella amgylchedd y cartref a phrofion golwg i bobl ag anabledd dysgu.
Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gyda Maggie Woodhouse yn Ysgol Optometreg Prifysgol Caerdydd ac Iain Kennedy o RNIB i archwilio'r effaith y mae colli golwg yn ei chael ar bobl ag anableddau dysgu.
Diolch yn fawr i Iain Kennedy am weithdy gwych sydd eisoes yn dylanwadu ar sut rydyn ni i gyd yn meddwl ac yn gweithredu.

Gorffennwyd gyda pherfformiad gan “The Signs of Music” cliciwch yma i weld un o’r perfformiadau

Elusen Gofrestredig Rhif 703002
Cwmni Cyfyngedig drwy Warant. Rhif Cofrestru 2506147
Dyluniwyd a Datblygwyd gan Spindogs