Nod Drive yw darparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n sensitif ac yn hyblyg i ddiwallu anghenion y bobl rydyn ni'n eu cefnogi. Mae Drive yn credu y dylid gwerthfawrogi pobl ag anableddau dysgu fel dinasyddion llawn sydd â hawliau a chyfrifoldebau.

Mae Drive yn croesawu canmoliaeth a/neu gwynion a fydd yn ein cynorthwyo i wella gwasanaethau gan ystod eang o bobl fel unigolion rydyn ni'n eu cefnogi, rhieni a gofalwyr. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon uchel ac i wella ac ymestyn yn barhaus yr hyn y gallwn ei gynnig. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall fod achlysuron pan fydd pethau'n mynd o chwith. Mae'n bwysig eich bod chi'n dweud wrthym pan fydd hyn yn digwydd fel y gallwn ni ddelio'n gyflym â'r broblem rydych chi wedi'i chodi. Mae adborth wir yn ein helpu i wella ansawdd ein gwaith.

Mae modd gweld ein polisi Canmoliaeth a Chwynion drwy glicio yma

 

Os oes gennych adborth sy'n peri pryder i chi, byddem yn croesawu i chi rannu'r wybodaeth honno gyda ni, defnyddiwch y ffurflen gyswllt isod.

Cyswllt

Nod Drive yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl rydyn ni'n eu cefnogi, gan gredu mai dim ond pan fydd y rhai rydyn ni'n eu cefnogi yn byw bywyd llawn a gwerthfawr y bydd gwasanaethau effeithiol yn digwydd.

01443 845 260 mail@drive-wales.org.uk
Cadwch mewn cysylltiad a chofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Eisiau Ymuno â'n Bwrdd?